Mae gan Gymdeithas y Beibl ei gwreiddiau yng Nghymru. Yng Nghymru y gwnaeth Mary Jones ei thaith gerdded enwog i brynu Beibl yn ei hiaith ei hun, Cymraeg, gan y Parchedig Thomas Charles.
Ei phenderfyniad i fod yn berchen ar ei Beibl ei hun y gallai ei ddarllen drosti ei hun a ysgogodd Mr Charles i weithio gydag eraill i sefydlu’r Gymdeithas Feiblaidd Frytanaidd a Thramor yn 1804.
Heddiw mae Cymdeithas y Beibl yn parhau i weithio yng Nghymru ymhlith pobl sy’n siarad Cymraeg ac yn siarad Saesneg. Cymdeithas y Beibl yw prif gyhoeddwyr y Beibl yn Gymraeg. Mae ein canolfan ymwelwyr, Canolfan Pererin Mary Jones yn Llanycil, y Bala yn gwneud stori Mary Jones, Thomas Charles, a Chymdeithas y Beibl yn wybyddus i genedlaethau newydd o dwristiaid, grwpiau ysgol ac eraill. Mae Agor y Llyfr hefyd yn weithredol iawn yng Nghymru, gan gymryd storiâu’r Beibl i ysgolion, y rhai Cymraeg a Saesneg y mhob rhan o’r wlad.
Mae’r tîm yng Nghymru yn gweithio i annog, arfogi a chefnogi pobl yng Nghymru i ddarllen y Beibl ac i’w ddeall yn well.
Ein nod yw codi hyder pobl ynghylch y Beibl, i oresgyn difaterwch ac i gynnig yr adnoddau a’r gefnogaeth i annog ac i arfogi pobl yn eu taith wrth ymgysylltu ag ef.
Dysgwch sut y gwnaeth taith un ferch newid bywydau miliynau: gweithgareddau rhyngweithiol, fideos ac arddangosfeydd yn dod â’i stori ryfeddol yn fyw o 1800 tan heddiw.
Cysylltwch â ni ac fe wnawn ni ddanfon rhywun i rannu ein storïau diweddaraf gyda’ch eglwys ynghyd â manylion ynghlyn â phartneriaethu gyda’n cenhadaeth.
Dechreuodd Agor y Llyfr nôl yn 1999 yn Sir Gaerloyw. Yn 2023 lansiwyd deunydd newydd sbon ac mae’r adnoddau hyn wedi ei cyfieithu i’r Gymraeg hefyd.
P'un a ydych gartref neu mewn cynulleidfa, fe welwch lawer yn y casgliad ysbrydoledig hwn o ddeunydd addoli ar gyfer Sul y Beibl ar 24 Hydref 2023.
Gyda neges yr efengyl yn glir a chyfres o luniau lliwgar hyfryd, dyma'r anrheg Pasg perffaith i blant oed cynradd yn eich teulu, eglwys, ysgol a chymuned.
Mae Cymdeithas y Beibl a Youth for Christ wedi partneru i greu Beibl unigryw. Mae pobl ifanc fel chi wedi ein helpu i roi'r Beibl newydd yma at ei gilydd.
Mae Cymdeithas y Beibl wedi cynhyrchu ap Beibl Cymraeg o'r enw 'ap Beibl'. Mae ar gael am ddim ar Android ac Apple, a gellir cael hyd iddo fel tudalen we. Mae gan y cyfieithiadau mwyaf poblogaidd sain hefyd fel y gallwch wrando hefyd.
Testament Newydd a Salmau William Salesbury 1567
Lawrlwythwch eich eLyfrau o Destament Newydd a Salmau Salesbury - am ddim!