Lawrlwythwch eich eLyfrau o Destament Newydd a Salmau Salesbury - am ddim!
Yn 1567 pasiwyd deddf yn enw'r Frenhines Elisabeth I, yn gorchymyn esgobion yr Eglwys Anglicanaidd yng Nghymru a Henffordd i drefnu bod y Beibl a'r Llyfr Gweddi Gyffredin (gan gynnwys y Salmau) yn cael eu cyfieithu i'r Gymraeg.
Ychydig dros 450 mlynedd ar ôl i Salesbury gyfieithu'r Testament Newydd a'r Salmau i'r Gymraeg, rydym yn falch o allu eu cynnig i chi mewn dau fformat eLyfr gwahanol:
Y cyfieithiad cyntaf o’r Testament Newydd i’r Gymraeg. William Salesbury oedd yn gyfrifol am y rhan fwyaf o’r gwaith. Yr Esgob Richard Davies a gyfieithodd Epistol Cyntaf Timotheus, Hebreaid, Iago, ac 1 a 2 Pedr, a Thomas Huet a gyfieithodd Lyfr y Datguddiad.
Y cyfieithiad cyntaf o’r Salmau i’r Gymraeg. Wedi ei gyfieithu o’r Hebraeg a’r Roeg gan William Salesbury.