Beibl i bobl ifanc, wedi’i ddylunio gyda phobl ifanc.
Mae Cymdeithas y Beibl a Youth for Christ wedi partneru i greu Beibl unigryw. Mae pobl ifanc fel chi wedi ein helpu i roi'r Beibl newydd yma at ei gilydd. Gwrandawsom ar eich syniadau a chlywsom be sy’n bwysig i chi: gwybodaeth i’ch helpu dysgu a mynd yn ddyfnach i neges y Beibl, sialensiau i wneud i chi feddwl am beth rydych yn ei ddarllen a ffyrdd i’ch helpu i wneud hynny – yn ogystal ag amser i adlewyrchu a lle i greu drwy ysgrifennu, dŵdlo a thynnu llun.
Ewch yma i archebu eich copi o beibl.net i bobl ifanc.
I weld sampl o beibl.net i bobl ifanc, ewch yma
‘Mae’r cyflwyniadau i lyfrau’r Beibl, a’r deunydd rhyngweithiol yn gaffaeliaid, a braint yw cymeradwyo’r gyfrol at ddefnydd ieuenctid Cymru’
Aled Davies – Cyngor Ysgolion Sul
Mae nifer o fideos i gydfynd â Beibl.net – i bobl ifanc
Mae’r Beibl yma yn wych ond mae nifer o bethau gall fod yn anodd i’w ddeall neu mae angen eu trafod. Felly rydym wedi creu fideos sy’n son am y rhannau fwyaf heriol er mwyn i’ch helpu. Ymunwch â Joseff, Elen a Gareth wrth iddynt drafod rhai o faterion mawr y Beibl.
Mae’r Beibl wedi ei greu mewn partneriaeth â Youth for Christ. Ni fyddai hyn wedi bod yn bosib heb eu hymdrech, creadigrwydd ac angerdd. I wybod mwy am y gwaith gwych mae’n yn eu gwneud, ewch i’w gwefan.