Author: Bible Society, 10 January 2024
Gall y Beibl ymddangos yn llethol, diflas ac anodd ond dyma ychydig o awgrymiadau sylfaenol all eich helpu i’w ddeall yn well. Rhowch gynnig ar y rhain …
Mae hyd yn oed y darnau mwyaf newydd yn 2,000 o flynyddoedd oed. Felly dechreuwch holi cwestiynau i chi’ch hun am sut roedd pethau pan ysgrifennwyd y llyfrau a chwiliwch Google am yr atebion. Bydd hyn yn mynd â chi ar daith i fyd awduron Beiblaidd ac yn agor eich llygaid i syniadau newydd a diddorol.
Mae’n hawdd cymryd adnodau, neu ambell dro straeon cyfan, allan o’u cyd-destun drwy eu darllen ar eu pennau eu hunain. Ceisiwch weithio allan ble maent yn ffitio yn y stori ehangach neu’r ddadl mewn llyfr. Byddwch yn cael ymdeimlad llawer gwell o’r hyn sy’n digwydd a pha neges sydd i chi.
Mae hyn yn arbennig o wir am adnodau enwog; gallwn dybio ein bod yn gwybod beth sy’n cael ei ddweud a ddim yn ei ddarllen mewn gwirionedd. Felly arafwch a meddyliwch amdano. Byddwch yn aml yn canfod eich bod yn ei ddeall mewn ffordd newydd.
Rydym i gyd yn dod â phrofiadau ein hunain at y Beibl felly mae’n ddefnyddiol iawn darllen y Beibl gyda phobl eraill, er enghraifft, grŵp cartref neu dripledi gweddi. Byddwch yn cael safbwynt pobl eraill ar yr hyn maent hwy’n ei gredu mae’r Beibl yn ei ddweud. I gael syniadau gwahanol go iawn, darllenwch y Beibl gyda rhywun o ddiwylliant gwahanol.
Nid yw’n nofel. Dechreuwch gyda’r rhannau y gallwch eu deall. Efallai y byddwch yn canfod fod Marc yn fwy diddorol na Hebreaid, Genesis yn fwy difyr na Lefiticus, am fod straeon yn aml yn haws i’w darllen na phregethau neu gyfreithiau. Wedi darllen y straeon efallai y byddech yn dymuno darllen barddoniaeth (Salmau) neu ambell i lythyr.
Mae na' dri prif gyfieithiad Cymraeg. Chwiliwch am yr un rydych yn ei hoffi orau. Mae’n aml yn syniad da i gael cyfieithiad llythrennol (fel y BCND) ac un sydd mewn Cymraeg modern hawdd ei ddarllen (fel beibl.net). Bydd y gwahaniaethau rhyngddynt yn peri i chi feddwl.
Gall y Beibl fod yn llyfr anodd ei ddarllen pan fyddwch yn dechrau, ond po fwyaf y darllenwch, po fwyaf y byddwch yn mynd i’r afael ag o. Os daliwch ati byddwch yn dysgu ei garu a’i ddeall yn well ac yn fuan ni fyddwch yn gallu cofio sut roeddech yn gallu gwneud hebddo.
Gan Paula Gooder, Cymdeithas y Beibl.
Share this: