Rhesymau i gredu ym mhŵer y Beibl
‘Adnod sydd wedi golygu llawer i mi yn ddiweddar yw Mathew 5.14 “Chwi yw goleuni'r byd.”
Ym mis Gorffennaf 2021 roeddem ar wyliau yn Swydd Efrog - fy ngŵr, fy mab a merch a ffrind fy mab.
‘Aeth fy mab, sy’n 18 oed, yn wael iawn ac aethom ag ef i’r Adran Ddamweiniau ac Achosion Brys. Aeth i mewn i'r ystafell ar ei ben ei hun. Pan ddaeth allan roeddem yn disgwyl iddo ddweud, “Mae'n iawn, gallwn fynd adref.” Meddai, “Maen nhw eisiau siarad ag un ohonoch chi. Maen nhw'n weddol sicr fy mod i wedi cael gwaedlif ar yr ymennydd.”
‘Roeddwn i eisiau sgrechian, ond rywsut fe wnes i weddïo ac roeddwn i'n weddol ddigynnwrf. Aethon nhw ag ef i ffwrdd am sgan ymennydd ac es i'r toiled, a mynd ar fy ngliniau a gweddïo y byddwn i yno i fy mab a fy ngŵr, beth bynnag a ddigwyddai, ac y byddwn i'n cael fy nghynnal mewn rhyw ffordd.
‘Rwy’n cofio ei gofleidio - roedd yn amlwg wedi cynhyrfu’n fawr - a dwedais, “Waeth pa mor dywyll yr aiff hyn, fyddi di ddim ar dy ben dy hun. Bydda i yma.”
‘Roedd mewn ystafell ynysu. Roedd yn rhaid i fy ngŵr fynd yn ôl i weld ein merch, ac eisteddais i lawr yn y maes parcio ble roeddwn i'n gallu gweld ei ffenest. Daeth rhywun i fyny a gofyn, "Ydych chi'n iawn?" Dywedais, “Mae fy mab i fyny fan’na ac mae'n ei chael hi'n anodd iawn.” Dywedodd, “Fi yw'r dyn diogelwch, a ydych chi am i mi nôl cadair i chi?"
‘Mae'n dal i fynd trwy’r broses o wella bedwar mis yn ddiweddarach ac mae’n cael cur pen gwael iawn. Cafodd ei ffydd ei herio go iawn ac mae wedi tyfu.
‘Mae wedi bod yn gyfnod anodd iawn, ond hefyd yn gyfnod o dyfu mewn ffydd. Mae'r cariad gan ein teulu eglwysig wedi bod yn hollol anhygoel.
‘Mae yna lawer na all fy mab ei wneud oherwydd ei fod yn bryderus iawn. Mae wedi cael trafferth gadael y tŷ ar ei ben ei hun. Meddai, “Mam, mae fy mywyd yn weddol diflas, ond roedd yn weddol diflas o’r blaen a wnes i ddim ei sylweddoli. Dw i ddim eisiau iddo fod yr un peth, dw i eisiau bod yn rhywun gwell.”
‘Mae'n gwybod y bydd yn gwella a phob dydd mae'n dod ymlaen fesul ychydig. Mae'n newid ynglŷn â phwy mae eisiau bod - mae hyd yn oed wedi cofrestru i fod yn fentor i elusen dibyniaeth. Mae'n ddyn da iawn, ond ni fyddai erioed wedi gwneud hynny o'r blaen.
‘Daw bendithion trwy ffyrdd anghyffredin.’
Oes gennych chi stori i rannu? E-bostiwch [email protected]
Hoffech rannu sut mae’r Beibl wedi cael effaith ar eich bywyd? E-bostiwch [email protected]